Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Medi 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6564
------
Datganiad gan y Llywydd
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, penderfynodd y Llywydd bod Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Dywedodd y Llywydd hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi cael eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. Cafodd y cyfarfod ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1-9 ac 11-12. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Atebwyd cwestiynau 1 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyfyngiadau coronafeirws lleol ym Mwdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf
Dechreuodd yr eitem am 15.12
4 Cwestiynau Amserol
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.01
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd.
Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad ar 40 mlynedd o CYCA cycaonline.org sy’n darparu gwasanaethau i blant a pobl Ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad ar 80 mlynedd ers Brwydr Prydain.
Am 16.07, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd tan 16.22.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.22
NDM7374 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:
Yn penodi Lindsay Foyster yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 17 Hydref 2020 tan 15 Mawrth 2023.
Noder: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020.
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd - TYNNWYD YN ÔL
Tynnwyd yr eitem yn ôl.
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well
Dechreuodd yr eitem am 16.24
NDM7373 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2019.
Noder: Gosodwyd ymatebion Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2019 a 9 Medi 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mesurau i Atal COVID-19
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7376 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd, canolfannau siopa, ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill;
c) ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (a).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
11 |
11 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le:
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn perthynas â theithio rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a ddysgwyd.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
2 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le 'profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
1 |
22 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llety i alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau i fod dan gwarantin ar eu pen eu hunain.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
41 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn lleoliadau addysg penodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
10 |
34 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o ymdrin â'r pandemig yn ystod y cyfnod nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
31 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i weithio tuag at gyflwyno profion dyddiol torfol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
33 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r syniad o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb i glystyrau lleol, gan ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â phosibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
33 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7376 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio Covid-19 mewn modd cymesur er mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan;
b) profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
9 |
14 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Am 18.04, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd tan 18.12.
10 Dadl Plaid Brexit - Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
Dechreuodd yr eitem am 18.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7372 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn croesawu Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu rhai rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol, bwerau pwysig o'r UE i'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
0 |
52 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
2 |
22 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod Gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y rhannau hynny o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn sgil Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7372 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
2 |
13 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
11 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.16, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 19.26
12 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 19.43
NDM7371 David Melding (Canol De Cymru)
Yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru i gynnig cymorth i lesddeiliaid.
Daeth y cyfarfod i ben am 20.07
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Medi 2020